P-05-1025 Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan National Education Union Cymru, ar ôl casglu cyfanswm o 2,022 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Fel y mae'r Gweinidog Addysg yn ei gydnabod, mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i bobl ifanc sydd eisoes wedi'u rhoi dan anfantais oherwydd Covid-19. Rydym yn croesawu ymddiheuriad y Gweinidog Addysg. Yn awr, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau brys i sicrhau bod myfyrwyr sydd i fod i sefyll arholiadau safon uwch, Bagloriaeth Cymru a TGAU yn 2021 yn cael eu trin yn deg ac nad oes unrhyw un dan anfantais.

 

Croesewir yr adolygiad annibynnol a gynllunnir yn fawr, ac edrychwn ymlaen at glywed rhagor o fanylion.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

​Yng Nghymru, gyda lefelau AS, a mwy o ffocws ar waith cwrs, mae gennym sail fwy cadarn ar gyfer barnu gwaith myfyrwyr. Fodd bynnag, mae'n rhaid i lwfansau gael eu gwneud ar gyfer yr amser y mae myfyrwyr wedi methu yn yr ysgol neu'r coleg.

 

Mae'n amlwg i'n haelodau bod angen i Lywodraeth Cymru wneud newidiadau i arholiadau'r flwyddyn nesaf er mwyn magu hyder bod y graddau a ddyfernir y mae cyfleoedd pobl ifanc mewn bywyd yn cael eu penderfynu arnynt, yn cydnabod ac yn gwobrwyo eu cyflawniadau'n briodol.

 

Credwn hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio nawr ar:

 

• Lleihau cynnwys y cwricwlwm a gaiff ei asesu ar gyfer arholiadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a safon uwch yr haf nesaf, drwy wneud rhai topigau'n ddewisol ar draws pob pwnc.

 

• Gweithio gydag athrawon, darlithwyr, arweinwyr ac undebau llafur i ddatblygu system Gymreig o raddau a asesir gan canolfannau cymedroli rhag ofn y bydd mwy o darfu ar arholiadau yr haf nesaf.

 

• Defnyddio'r cyfle hwn i ddatblygu system gadarn sy'n sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu gwobrwyo am eu cyflawniadau ac nad ydynt yn cael eu dal yn ôl oherwydd eu cefndir.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         De Caerdydd a Phenarth

·         Canol De Cymru